Mae hanes Simbabwe yn rhan annatod o hanes Affrica Ddeheuol a hanes y pobloedd Bantw.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Pobl Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan eu cymdogion y Matabele.
Ymhlith y dynion gwyn cyntaf i anturio i'r ardal oedd y cenhadwr a fforiwr David Livingstone. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.
Ym 1911 rhannwyd Rhodesia yn Ogledd Rhodesia (Sambia heddiw) a De Rhodesia (Simbabwe heddiw), a ddaeth yn wladfa Brydeinig hunanlywodraethol ym 1922. Ond ymsefydlwyr gwyn a redai'r wlad a doedd gan y bobl frodorol ddim llais yn ei llywodraeth.
Yn 1953 cafodd dwy ran Rhodesia eu hailuno eto i ffurfio Ffederaliaeth Rhodesia a Nyasaland. Ni pharhaodd yr uned newydd ond am ddeng mlynedd, ac ar ôl ei ymrannu yn 1963, hawliodd gwynion De Rhodesia annibyniaeth i'r wlad.
Ailenwyd De Rhodesia yn Rhodesia yn 1964. Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.